P-04-545 Gweithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan.

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i orchymyn bod adolygiad yn cael ei gynnal o weithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan mewn perthynas â r canlynol:

 

1. Rhyddhau cleifion sy’n agored i niwed yn hwyr yn y nôs, a hynny heb ddefnyddio cludiant a ddarperir gan yr ysbyty

2. Y cynllun rhithwir ar gyfer cleifion mewnol

3. Gweithdrefn gwynion Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, yn enwedig mewn perthynas ag achosion lle mae claf yn parhau i ddioddef o iechyd gwael neu boen

4. Y modd y mae cleifion iechyd meddwl yn cael eu trin mewn ysbytai cyffredinol

 

Prif ddeisebydd:  Paul Ward

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Ebrill 2014

Nifer y llofnodion: 20